SL(6)348 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2023.
Cefndir a Diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Rhenti 1977, yn benodol i ddarparu ar gyfer olyniaeth i gontract diogel lle cyn hynny,roedd yr hawl olyniaeth yn pennu tenantiaeth sicr (diddymwyd tenantiaethau sicr yng Nghymru gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016).
Mae'r diwygiadau hyn yn sicrhau bod y ddarpariaeth bresennol yn parhau drwy gyfeirio at y contractau meddiannaeth perthnasol yng Nghymru ynghyd â chyfeiriadau at fathau o denantiaethau sydd bellach ond yn bodoli yn Lloegr.
Gweithdrefn
Cadarnhaol drafft
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai fod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Ar 3 Ebrill 2023, ysgrifennodd y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn. Mae’r llythyr yn datgan:
Yn anffodus, ni chafodd diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Rhenti 1977 eu cynnwys yn Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022, a wnaed ar 9 Tachwedd ac a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr. Mae hyn wedi gadael y llyfr statud mewn sefyllfa ansicr a allai arwain at ganlyniadau sylweddol i denantiaid a landlordiaid.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
3 Mai 2023